Psalmau 110
110
Y CX Psalm. Hên-fesur o lyfr Hergest.
1Diwael y dywed
Eurglod yr arglwydh
Wrth f’arglwydh wyrth fowrglod
Eistedh yniwedh ystod
I’m deheulaw ’n aelaw nôd:
Hynod osodaf
Dialaf d’alon
Y dynion rhôf danaf
A thann dy draed yn waed naf
Yw gorwedh mi ae gyrraf
2Dy nerth hôff werth ffôn
Ae anfon vn-fodh
Ras haeodh iôr Seion
Gwna lywodraeth wiwfaeth iôn
Yleni mysg d’elynion.
3Y bobloedh oedh war
Yma ’r offrymant
Ae llesgiant wllysgar
Nerth hardhwch gwelwch a gar
Santaidh y-nydh i Seintwar
O grôth y wawr gronn
Cyfion o cofij
Dy eni wlith dynion
4Tyngodh arglwydh wiw-swydh ion
Ni ydifara dwf wirion
Ti ydwyt wiwdad
Offeiriad ffêrol
Tragwydhol frô gwydhiad
Yn ol vrdh vn ni wyl wad
Melchisdec mawl wych wastad.
5Yr arglwydh swydh saint
Wall haint archolla
Dwg yna deg ennaint
Gwnaiff ar goedh frenhinoedh fraint
Dhygyfor yw dhigofaint.
6E farn Duw a fêdh
Gymysg wedh mwysgion
Y dynion di‐iownedh
E dyrr ben gwlad wastad wêdh
E leinw ôll a chelanedh.
7E ŷf o’r afon,
A hôffo ’n hyffordh
Ar y ffordh goroff iôn
Am hynn fy nêr syber son
Cyfyd i wyneb cyfion.
Dewis Presennol:
Psalmau 110: SC1595
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.