“Llawenha'n fawr, ferch Seion; bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen. Tyr ymaith y cerbyd o Effraim a'r meirch o Jerwsalem; a thorrir ymaith y bwa rhyfel. Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd; bydd ei lywodraeth o fôr i fôr, o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear. “Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom, gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr. Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus; heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg. Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda, ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim; codaf dy feibion, Seion, yn erbyn meibion Groeg, a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.” Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau, a'i saeth yn fflachio fel mellten; Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgorn ac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de. Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt; llwyddant, sathrant y cerrig tafl, byddant yn derfysglyd feddw fel gan win, wedi eu trochi fel cyrn allor. Y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu gwaredu; bydd ei bobl fel praidd, fel gemau coron yn disgleirio dros ei dir. Mor dda ac mor brydferth fydd! Bydd ŷd yn nerth i'r llanciau, a gwin i'r morynion.
Darllen Sechareia 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Sechareia 9:9-17
25 Days
Christmas is truly the greatest story ever told: one of God’s perfect faithfulness, power, salvation, and unfailing love. Let’s take a journey over the next 25 days to discover God’s intricate plan to save the world from sin and the promises fulfilled in the birth of His Son.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos