Yr wyf fel rhosyn Saron, fel lili'r dyffrynnoedd. Ie, lili ymhlith drain yw f'anwylyd ymysg merched. Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwig yw fy nghariad ymysg y bechgyn. Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod, ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau. Cymerodd fi i'r gwindy, gyda baner ei gariad drosof. Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta, a'm hadfywio ag afalau, oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad. Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio. Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch yn enw iyrchod ac ewigod y maes. Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariad nes y bydd yn barod. Ust! dyma fy nghariad, dyma ef yn dod; y mae'n neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau. Y mae fy nghariad fel gafrewig, neu hydd ifanc; dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur, yn edrych trwy'r ffenestri, ac yn syllu rhwng y dellt. Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf, “Cod yn awr, f'anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth; oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio, ciliodd y glaw a darfu; y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd, daeth yn amser i'r adar ganu, ac fe glywir cân y durtur yn ein gwlad; y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir, a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd. Cod yn awr, f'anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth.”
Darllen Caniad Solomon 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Caniad Solomon 2:1-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos