Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 9:25-33

Rhufeiniaid 9:25-33 BCND

Fel y mae'n dweud yn llyfr Hosea hefyd: “Galwaf yn bobl i mi rai nad ydynt yn bobl i mi, a galwaf yn anwylyd un nad yw'n anwylyd; ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, ‘Nid fy mhobl ydych’, yno, fe'u gelwir yn blant y Duw byw.” Ac y mae Eseia yn datgan am Israel: “Er i bobl Israel fod mor niferus â thywod y môr, gweddill yn unig fydd yn cael eu hachub; oherwydd llwyr a llym fydd dedfryd yr Arglwydd ar y ddaear.” A'r un yw neges gair blaenorol Eseia: “Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael i ni ddisgynyddion, byddem fel Sodom, ac yn debyg i Gomorra.” Beth, ynteu, a ddywedwn? Hyn, fod Cenhedloedd, nad oeddent â'u bryd ar gyfiawnder, wedi dod o hyd iddo, sef y cyfiawnder sydd trwy ffydd; ond bod Israel, er iddi fod â'i bryd ar gyfraith a fyddai'n dod â chyfiawnder, heb ei gael. Am ba reswm? Am iddynt weithredu, nid trwy ffydd ond ar y dybiaeth mai cadw gofynion cyfraith oedd y ffordd. Syrthiasant ar y “maen tramgwydd” y mae'r Ysgrythur yn sôn amdano