Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 8:14-17

Rhufeiniaid 8:14-17 BCND

Y mae pawb sy'n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn blant Duw. Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto'n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, “Abba! Dad!” Y mae'r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod yn blant i Dduw. Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion â Christ, os yn wir yr ydym yn cyfranogi o'i ddioddefaint ef er mwyn cyfranogi o'i ogoniant hefyd.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Rhufeiniaid 8:14-17