Yn wyneb hyn, pa ragorfraint sydd i'r Iddew? Pa werth sydd i'r enwaediad? Y mae llawer, ym mhob modd. Yn y lle cyntaf, i'r Iddewon yr ymddiriedwyd oraclau Duw. Ond beth os bu rhai yn anffyddlon? A all eu hanffyddlondeb hwy ddileu ffyddlondeb Duw? Ddim ar unrhyw gyfrif! Rhaid bod Duw yn eirwir, er i bawb arall fod yn gelwyddog. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Fel y'th geir yn gywir yn dy eiriau, a gorchfygu wrth gael dy farnu.” Ond os yw'n hanghyfiawnder ni yn dwyn i'r golau gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? Mai anghyfiawn yw'r Duw sy'n bwrw ei ddigofaint arnom? (Siarad fel dyn yr wyf.) Ddim ar unrhyw gyfrif! Os nad yw Duw yn gyfiawn, sut y gall farnu'r byd? Ie, ond os yw fy anwiredd i yn foddion i ddangos helaethrwydd gwirionedd Duw, a dwyn gogoniant iddo, pam yr wyf fi o hyd dan farn fel pechadur? “Gadewch i ni wneud drygioni er mwyn i ddaioni ddilyn”—ai dyna yr ydym yn ei ddweud, fel y mae rhai sy'n ein henllibio yn mynnu? Y mae'r rheini'n llawn haeddu bod dan gondemniad.
Darllen Rhufeiniaid 3
Gwranda ar Rhufeiniaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 3:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos