Ond ar hyn o bryd yr wyf ar fy ffordd i Jerwsalem, i fynd â chymorth i'r saint yno. Oherwydd y mae Macedonia ac Achaia wedi gweld yn dda gyfrannu i gronfa ar ran y tlodion ymhlith y saint yn Jerwsalem. Gwelsant yn dda, do, ond yr oeddent hefyd dan ddyled iddynt. Oherwydd os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u trysor ysbrydol hwy, y mae'n ddyled ar y Cenhedloedd weini arnynt mewn pethau tymhorol. Felly, pan fyddaf wedi cyflawni'r gorchwyl hwn, a gosod y casgliad yn ddiogel yn eu dwylo, caf gychwyn ar y daith i Sbaen a galw heibio i chwi. Gwn y bydd fy ymweliad â chwi dan fendith gyflawn Crist.
Darllen Rhufeiniaid 15
Gwranda ar Rhufeiniaid 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 15:25-29
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos