Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 14:10-12

Rhufeiniaid 14:10-12 BCND

Pam yr wyt ti yn barnu rhywun arall? A thithau, pam yr wyt yn bychanu rhywun arall? Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw. Fel y mae'n ysgrifenedig: “Cyn wired â'm bod i yn fyw, medd yr Arglwydd, i mi y bydd pob glin yn plygu, a phob tafod yn moliannu Duw.” Am hynny, bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ni'n hunain i Dduw.