Ond beth mae'n ei ddweud? “Y mae'r gair yn agos atat, yn dy enau ac yn dy galon.” A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef: “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.” Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth. Y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono.” Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.” Ond sut y mae pobl i alw ar rywun nad ydynt wedi credu ynddo? Sut y maent i gredu yn rhywun nad ydynt wedi ei glywed? Sut y maent i glywed, heb fod rhywun yn pregethu? Sut y maent i bregethu, heb gael eu hanfon? Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Mor weddaidd yw traed y rhai sy'n cyhoeddi newyddion da.”
Darllen Rhufeiniaid 10
Gwranda ar Rhufeiniaid 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 10:8-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos