Ac at angel yr eglwys yn Sardis, ysgrifenna: “Dyma y mae'r hwn sydd ganddo saith ysbryd Duw a'r saith seren yn ei ddweud: Gwn am dy weithredoedd, a bod gennyt enw dy fod yn fyw er mai marw ydwyt. Bydd effro, a chryfha'r hyn sydd ar ôl gennyt, sydd ar ddarfod amdano, oherwydd ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn yng ngolwg fy Nuw i. Cofia, felly, beth a dderbyniaist ac a glywaist; cadw at hynny ac edifarha. Os na fydd iti ddeffro, fe ddof fel lleidr, ac ni chei wybod pa awr y dof atat. Ond y mae gennyt rai unigolion yn Sardis nad ydynt wedi halogi eu dillad; caiff y rhain rodio gyda mi mewn gwisgoedd gwynion, oherwydd y maent yn deilwng. Y sawl sy'n gorchfygu, gwisgir hwnnw yn yr un modd mewn gwisgoedd gwynion, ac ni thorraf byth ei enw allan o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”
Darllen Datguddiad 3
Gwranda ar Datguddiad 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 3:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos