Ni bydd dim mwyach dan felltith. Yn y ddinas bydd gorsedd Duw a'r Oen, a'i weision yn ei wasanaethu; cânt weld ei wyneb, a bydd ei enw ar eu talcennau. Ni bydd nos mwyach, ac ni bydd arnynt angen na golau lamp na golau haul, oherwydd bydd yr Arglwydd Dduw yn eu goleuo, a byddant hwy'n teyrnasu byth bythoedd. Yna dywedodd yr angel wrthyf, “Dyma eiriau ffyddlon a gwir: y mae'r Arglwydd Dduw, sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'w weision y pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder. Ac wele, yr wyf yn dod yn fuan. Gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.” Myfi, Ioan, yw'r un a glywodd ac a welodd y pethau hyn. Ac wedi imi glywed a gweld, syrthiais wrth draed yr angel a'u dangosodd imi, i'w addoli; ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr y proffwydi, ac â'r rhai sy'n cadw geiriau'r llyfr hwn; addola Dduw.” Dywedodd wrthyf hefyd, “Paid â gosod geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn dan sêl, oherwydd y mae'r amser yn agos.
Darllen Datguddiad 22
Gwranda ar Datguddiad 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 22:3-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos