A theml ni welais ynddi, oherwydd ei theml hi yw'r Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, a'r Oen. Nid oes ar y ddinas angen na'r haul na'r lleuad i dywynnu arni, oherwydd gogoniant Duw sy'n ei goleuo, a'i lamp hi yw'r Oen. A bydd y cenhedloedd yn rhodio yn ei goleuni hi, a brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant i mewn iddi. Byth ni chaeir ei phyrth y dydd, ac ni bydd nos yno. A byddant yn dwyn i mewn iddi ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd. Ni chaiff dim halogedig, na neb sy'n ymddwyn yn ffiaidd neu'n gelwyddog, fynd i mewn iddi hi, neb ond y rhai sydd â'u henwau'n ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen.
Darllen Datguddiad 21
Gwranda ar Datguddiad 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 21:22-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos