Ar ôl hyn gwelais angel arall yn disgyn o'r nef, a chanddo awdurdod mawr; a goleuwyd y ddaear gan ei ogoniant ef. Gwaeddodd â llais cryf:
“Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr,
aeth yn drigfa cythreuliaid,
yn gyrchfa pob ysbryd aflan,
yn gyrchfa pob aderyn aflan,
ac yn gyrchfa pob bwystfil aflan ac atgas;
oherwydd o win llid ei phuteindra
y mae'r holl genhedloedd wedi yfed.
Puteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi,
ac ymgyfoethogodd masnachwyr y ddaear ar ddigonedd ei moethusrwydd hi.”
Yna clywais lais arall o'r nef yn dweud:
“Dewch allan ohoni, fy mhobl,
rhag i chwi gyfranogi o'i phechodau,
ac o'i phlâu
dderbyn rhan;
oherwydd pentyrrwyd ei phechodau hyd y nef,
a chadwodd Duw ei hanghyfiawnderau hi ar gof.
Talwch y pwyth yn ôl iddi,
talwch hi'n ddyblyg am ei gweithredoedd;
dyblwch iddi chwerwder y cwpan a gymysgodd hi;
yn ôl mesur ei rhwysg a'i moethusrwydd,
rhowch iddi boenedigaeth a galar.
Oherwydd yn ei chalon y mae'n dweud,
‘Rwy'n eistedd yn frenhines,
nid gweddw wyf,
a galar ni welaf byth.’
Am hyn daw ei phlâu arni o fewn un dydd,
marwolaeth, galar a newyn,
a llosgir hi'n ulw â thân;
oblegid nerthol yw'r Arglwydd Dduw, ei barnwr hi.”
Bydd brenhinoedd y ddaear, a buteiniodd gyda hi a byw'n foethus, yn wylo a galaru amdani, pan welant fwg ei llosgi hi. Safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, a dweud:
“Gwae, gwae'r ddinas fawr,
Babilon, y ddinas nerthol,
oherwydd mewn un awr daeth arnat dy farn!”
Bydd masnachwyr y ddaear yn wylo a galaru amdani, oherwydd nid oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau, eu llwythi o aur ac arian, o emau gwerthfawr a pherlau, o liain main a sidan, o borffor ac ysgarlad; eu llwythi o bob pren persawrus ac o bob gwaith ifori a gwaith pren drudfawr neu bres neu haearn neu farmor; eu llwythi o sinamon, sbeis a pherlysiau, o fyrr a thus, o win ac olew, o flawd mân a gwenith, o wartheg a defaid, o geffylau a cherbydau, o gaethweision a bywydau pobl. Dywedant wrthi:
“Y mae'r ffrwyth y chwenychodd dy enaid amdano
wedi mynd oddi wrthyt,
a'r holl wychder a'r ysblander oedd iti
wedi diflannu oddi wrthyt,
byth mwy i'w canfod!”
Bydd masnachwyr y nwyddau hyn, a enillodd eu cyfoeth drwyddi hi, yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, yn wylo a galaru a dweud:
“Gwae, gwae'r ddinas fawr,
sydd wedi ei gwisgo â lliain main,
â phorffor ac ysgarlad,
a'i thecáu â thlysau aur,
â gemau gwerthfawr a pherlau,
oherwydd diffeithio cymaint o gyfoeth mewn un awr!”
Yna cafwyd pob capten llong a phob teithiwr ar fôr, llongwyr a phawb sydd â'u gwaith ar y môr, yn sefyll o hirbell ac yn gweiddi wrth weld mwg ei llosgi hi: “A fu dinas debyg i'r ddinas fawr?” Bwriasant lwch ar eu pennau a gweiddi mewn dagrau a galar:
“Gwae, gwae'r ddinas fawr,
lle'r enillodd pawb a chanddynt longau ar y môr
gyfoeth trwy ei golud hi,
oherwydd ei diffeithio mewn un awr!”
O nef, gorfoledda drosti,
a chwithau'r saint, a'r apostolion a'r proffwydi,
oherwydd y farn a roes hi arnoch chwi a roes Duw arni hi.
Cododd angel nerthol garreg debyg i faen melin mawr a'i thaflu i'r môr a dweud:
“Yr un mor ffyrnig yr hyrddir i'r ddaear
Fabilon, y ddinas fawr,
ac nis ceir byth mwy.
A sain telynorion a cherddorion
a rhai'n canu ffliwt ac utgorn,
nis clywir ynot byth mwy;
a phob un sy'n dilyn unrhyw grefft,
nis ceir ynot byth mwy;
a sŵn maen y felin,
nis clywir ynot byth mwy;
a golau lamp,
nis gwelir ynot byth mwy;
a llais priodfab a phriodferch,
nis clywir ynot byth mwy.
Mawrion y ddaear oedd dy fasnachwyr di,
a thwyllwyd yr holl genhedloedd gan dy ddewiniaeth.
Ynddi hi y cafwyd gwaed y proffwydi a'r saint,
a phawb a laddwyd ar y ddaear.”