Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog, yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.” Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol; bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled. Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd, rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd. Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir â thi.
Darllen Y Salmau 91
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 91:1-7
5 Days
It's our natural tendency to look to the future, but we should never forget the past. This plan is designed for you over a 5-day period to remember all that God has done in shaping you into the person you are today. Each day, you will get a Bible reading and a brief devotional designed the help you remember the key events of your walk with Christ. For more content, check out finds.life.church
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos