Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd, ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di. Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd, ac yn anrhydeddu dy enw. Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau; ti yn unig sydd Dduw. O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd, imi rodio yn dy wirionedd; rho imi galon unplyg i ofni dy enw. Clodforaf di â'm holl galon, O Arglwydd fy Nuw, ac anrhydeddaf dy enw hyd byth. Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf, a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.
Darllen Y Salmau 86
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 86:8-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos