Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 86:1-10

Y Salmau 86:1-10 BCND

Tro dy glust ataf, ARGLWYDD, ac ateb fi, oherwydd tlawd ac anghenus ydwyf. Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi; gwared dy was sy'n ymddiried ynot. Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd, oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd. Llawenha enaid dy was, oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar, ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat. Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi, a gwrando ar fy ymbil. Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat, oherwydd yr wyt ti yn fy ateb. Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd, ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di. Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd, ac yn anrhydeddu dy enw. Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau; ti yn unig sydd Dduw.