Y mae Duw yn ei le yn y cyngor dwyfol; yng nghanol y duwiau y mae'n barnu. “Am ba hyd y barnwch yn anghyfiawn, ac y dangoswch ffafr at y drygionus? Sela “Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad, gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd. Gwaredwch y gwan a'r anghenus, achubwch hwy o law'r drygionus. “Nid ydynt yn gwybod nac yn deall, ond y maent yn cerdded mewn tywyllwch, a holl sylfeini'r ddaear yn ysgwyd. Fe ddywedais i, ‘Duwiau ydych, a meibion i'r Goruchaf bob un ohonoch.’ Eto, byddwch farw fel meidrolion, a syrthio fel unrhyw dywysog.” Cyfod, O Dduw, i farnu'r ddaear, oherwydd eiddot ti yw'r holl genhedloedd.
Darllen Y Salmau 82
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 82:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos