Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 78:1-8

Y Salmau 78:1-8 BCND

Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl, gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau. Agoraf fy ngenau mewn dihareb, a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt, pethau a glywsom ac a wyddom, ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym. Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion, ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym, a'r pethau rhyfeddol a wnaeth. Fe roes ddyletswydd ar Jacob, a gosod cyfraith yn Israel, a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid, i'w dysgu i'w plant; er mwyn i'r to sy'n codi wybod, ac i'r plant sydd heb eu geni eto ddod ac adrodd wrth eu plant; er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw, a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw, ond cadw ei orchmynion; rhag iddynt fod fel eu tadau yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar, yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarn a'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw.