Af yn ôl i'r dyddiau gynt a chofio am y blynyddoedd a fu; meddyliaf ynof fy hun yn y nos, myfyriaf, a'm holi fy hunan, “A wrthyd yr Arglwydd am byth, a pheidio â gwneud ffafr mwyach? A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr, a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau? A yw Duw wedi anghofio trugarhau? A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?” Sela Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid: A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?” “Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD, a chofio am dy ryfeddodau gynt. Meddyliaf am dy holl waith, a myfyriaf am dy weithredoedd. O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd; pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni? Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol; dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd. Â'th fraich gwaredaist dy bobl, disgynyddion Jacob a Joseff. Sela
Darllen Y Salmau 77
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 77:5-15
12 Days
This Bible Plan is for anyone who’s hurting and doesn’t understand why. If you’ve lost something, someone, or your faith feels stretched to the breaking point, then this Bible Plan from Life.Church Pastor Craig Groeschel’s book, Hope in the Dark, might be exactly what you need. If you want to believe, but you’re not sure how, this is for you.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos