Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 74:12-17

Y Salmau 74:12-17 BCND

Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed, yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear. Ti, â'th nerth, a rannodd y môr, torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a'i roi'n fwyd i fwystfilod y môr. Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid. Eiddot ti yw dydd a nos, ti a sefydlodd oleuni a haul. Ti a osododd holl derfynau daear, ti a drefnodd haf a gaeaf.