a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn, O Dduw, paid â'm gadael, nes imi fynegi dy rym i'r cenedlaethau sy'n codi. Y mae dy gryfder a'th gyfiawnder, O Dduw, yn cyrraedd i'r uchelder, oherwydd iti wneud pethau mawr. O Dduw, pwy sydd fel tydi? Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw, fydd yn fy adfywio drachefn; ac o ddyfnderau'r ddaear fe'm dygi i fyny unwaith eto. Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd, ac yn troi i'm cysuro. Byddaf finnau'n dy foliannu â'r nabl am dy ffyddlondeb, O fy Nuw; byddaf yn canu i ti â'r delyn, O Sanct Israel. Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen— oherwydd canaf i ti— a hefyd yr enaid a waredaist.
Darllen Y Salmau 71
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 71:18-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos