Saf i fyny, O ARGLWYDD, yn dy ddig; cyfod yn erbyn llid fy ngelynion; deffro, fy Nuw, i drefnu barn. Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch; eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau. O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd, barna fi yn ôl fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD, ac yn ôl y cywirdeb sydd ynof. Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus, ond cadarnha di y cyfiawn, ti sy'n profi meddyliau a chalonnau, ti Dduw cyfiawn. Duw yw fy nharian, ef sy'n gwaredu'r cywir o galon. Duw sydd farnwr cyfiawn, a Duw sy'n dedfrydu bob amser.
Darllen Y Salmau 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 7:6-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos