O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di; y mae fy enaid yn sychedu amdanat, a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau, fel tir sych a diffaith heb ddŵr. Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr, a gweld dy rym a'th ogoniant. Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd; am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu. Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes, ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw. Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster, a moliannaf di â gwefusau llawen. Pan gofiaf di ar fy ngwely, a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos— fel y buost yn gymorth imi, ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd— bydd fy enaid yn glynu wrthyt; a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal. Ond am y rhai sy'n ceisio difetha fy mywyd, byddant hwy'n suddo i ddyfnderau'r ddaear; fe'u tynghedir i fin y cleddyf, a byddant yn ysglyfaeth i lwynogod. Ond bydd y brenin yn llawenhau yn Nuw, a bydd pawb sy'n tyngu iddo ef yn gorfoleddu, oherwydd caeir safnau'r rhai celwyddog.
Darllen Y Salmau 63
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 63:1-11
7 Days
New Year. A New Day. God created these transitions to remind us that He is the God of New Beginnings. If God can speak the world into existence, He can certainly speak into the darkness of your life, creating for you a new beginning. Don’t you just love fresh starts! Just like this reading plan. Enjoy!
28 Days
Do you feel overwhelmed, dissatisfied, and stuck in a rut? Wishing your day-to-day life could improve? God's Word is your guide to brighter days. During this 28-day reading plan, you will discover ways you can go from living just a good life to living the type of better life that God desires you to have.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos