Y Salmau 61:1-5
Y Salmau 61:1-5 BCND
Clyw fy nghri, O Dduw, a gwrando ar fy ngweddi; o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat, pan yw fy nghalon ar suddo. Arwain fi at graig sy'n uwch na mi; oherwydd buost ti'n gysgod imi, yn dŵr cadarn rhag y gelyn. Gad imi aros yn dy babell am byth, a llochesu dan gysgod dy adenydd. Sela Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau, a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw.


