“Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf; dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel; myfi yw Duw, dy Dduw di. Ni cheryddaf di am dy aberthau, oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron. Ni chymeraf fustach o'th dŷ, na bychod geifr o'th gorlannau; oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig, a'r gwartheg ar fil o fryniau. Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr, ac eiddof fi holl greaduriaid y maes. Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti, oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo. A fwytâf fi gig eich teirw, neu yfed gwaed eich bychod geifr? Rhowch i Dduw offrymau diolch, a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf. Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngder fe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.”
Darllen Y Salmau 50
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 50:7-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos