Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th dŷ, plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti. ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion, gwna dy ffordd yn union o'm blaen. Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau, y mae dinistr o'u mewn; bedd agored yw eu llwnc, a'u tafod yn llawn gweniaith. Dwg gosb arnynt, O Dduw, bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion; bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodau am iddynt wrthryfela yn dy erbyn. Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau, a chanu mewn llawenydd yn wastad; bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw, fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti. Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn, ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.
Darllen Y Salmau 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 5:7-12
28 Diwrnod
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos