Y Salmau 44:14-26
Y Salmau 44:14-26 BCND
Gwnaethost ni'n ddihareb ymysg y cenhedloedd, ac y mae'r bobloedd yn ysgwyd eu pennau o'n plegid. Y mae fy ngwarth yn fy wynebu beunydd, ac yr wyf wedi fy ngorchuddio â chywilydd o achos llais y rhai sy'n fy ngwawdio a'm difrïo, ac oherwydd y gelyn a'r dialydd. Daeth hyn i gyd arnom, a ninnau heb dy anghofio na bod yn anffyddlon i'th gyfamod. Ni throdd ein calon oddi wrthyt, ac ni chamodd ein traed o'th lwybrau, i beri iti ein hysigo yn nhrigfa'r siacal a'n gorchuddio â thywyllwch dudew. Pe baem wedi anghofio enw ein Duw ac estyn ein dwylo at dduw estron, oni fyddai Duw wedi canfod hyn? Oherwydd gŵyr ef gyfrinachau'r galon. Ond er dy fwyn di fe'n lleddir drwy'r dydd, a'n trin fel defaid i'w lladd. Ymysgwyd! Pam y cysgi, O Arglwydd? Deffro! Paid â'n gwrthod am byth. Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb ac yn anghofio'n hadfyd a'n gorthrwm? Y mae ein henaid yn ymostwng i'r llwch, a'n cyrff yn wastad â'r ddaear. Cyfod i'n cynorthwyo. Gwareda ni er mwyn dy ffyddlondeb.


