Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo. Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef, oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna. Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu, ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da. Dewch, blant, gwrandewch arnaf, dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD. Pwy ohonoch sy'n dymuno bywyd ac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni? Cadw dy dafod rhag drygioni a'th wefusau rhag llefaru celwydd. Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda, ceisia heddwch a'i ddilyn. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w cri. Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg, i ddileu eu coffa o'r ddaear. Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDD a'u gwaredu o'u holl gyfyngderau. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.
Darllen Y Salmau 34
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 34:8-18
7 Days
Amy Groeschel has written this seven-day Bible Plan in hopes it will be taken as straight from our loving Father’s heart to yours. Her prayer is that it teaches you to avoid the opposing clamor and awakens you to focus on His voice.
We may not always see or feel it, but God is always with us... even when we're going through hard things. In this plan, Finding Hope Coordinator Amy LaRue writes from the heart about her own family's struggle with addiction and how God's joy broke through in their darkest times.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos