Y Salmau 34:11-22
Y Salmau 34:11-22 BCND
Dewch, blant, gwrandewch arnaf, dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD. Pwy ohonoch sy'n dymuno bywyd ac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni? Cadw dy dafod rhag drygioni a'th wefusau rhag llefaru celwydd. Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda, ceisia heddwch a'i ddilyn. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w cri. Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg, i ddileu eu coffa o'r ddaear. Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDD a'u gwaredu o'u holl gyfyngderau. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd. Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn, ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan. Ceidw ei holl esgyrn, ac ni thorrir yr un ohonynt. Y mae adfyd yn lladd y drygionus, a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn. Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision, ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.



