Atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid; O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried; paid â dwyn cywilydd arnaf, paid â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos. Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti, ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos. Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD, hyffordda fi yn dy lwybrau. Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi, oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy'r dydd.
Darllen Y Salmau 25
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 25:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos