Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 25:1-22

Y Salmau 25:1-22 BCND

Atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid; O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried; paid â dwyn cywilydd arnaf, paid â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos. Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti, ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos. Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD, hyffordda fi yn dy lwybrau. Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi, oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy'r dydd. O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb, oherwydd y maent erioed. Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel, ond yn dy gariad cofia fi, er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD. Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn, am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid. Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn, a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig. Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirionedd i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor. Er mwyn dy enw, ARGLWYDD, maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr. Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD, fe'i dysg pa ffordd i'w dewis; fe gaiff fyw'n ffyniannus, a bydd ei blant yn etifeddu'r tir. Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDD a hefyd ei gyfamod i'w dysgu. Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd. Tro ataf, a bydd drugarog wrthyf, oherwydd unig ac anghenus wyf fi. Esmwythâ gyfyngder fy nghalon, a dwg fi allan o'm hadfyd. Edrych ar fy nhrueni a'm gofid, a maddau fy holl bechodau. Gwêl mor niferus yw fy ngelynion ac fel y maent yn fy nghasáu â chas perffaith. Cadw fi a gwared fi, na ddoed cywilydd arnaf, oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu. Bydd cywirdeb ac uniondeb yn fy niogelu, oherwydd gobeithiais ynot ti. O Dduw, gwareda Israel o'i holl gyfyngderau.