Ond ti, ARGLWYDD, paid â sefyll draw; O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo. Gwared fi rhag y cleddyf, a'm hunig fywyd o afael y cŵn. Achub fi o safn y llew, a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt. Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod, a'th foli yng nghanol y gynulleidfa: “Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD; rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob; ofnwch ef, holl dylwyth Israel. Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru gorthrwm y gorthrymedig; ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho, ond gwrando arno pan lefodd.” Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr, a thalaf fy addunedau yng ngŵydd y rhai sy'n ei ofni. Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon, a'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei foli. Bydded i'w calonnau fyw byth! Bydd holl gyrrau'r ddaear yn cofio ac yn dychwelyd at yr ARGLWYDD, a holl dylwythau'r cenhedloedd yn ymgrymu o'i flaen. Oherwydd i'r ARGLWYDD y perthyn brenhiniaeth, ac ef sy'n llywodraethu dros y cenhedloedd.
Darllen Y Salmau 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 22:19-28
7 Days
How can we find the right attitude for every situation? What is the right attitude? This seven-day Bible Plan finds answers in the life and teachings of Christ. Let these daily encouragements, reflective prayers, and powerful Scriptures form in you the mind of Christ.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos