Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth; y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid; y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un. Mwy dymunol ydynt nag aur, na llawer o aur coeth, a melysach na mêl, ac na diferion diliau mêl. Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi, ac o'u cadw y mae gwobr fawr. Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd. Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar, rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf. Yna byddaf yn ddifeius, ac yn ddieuog o bechod mawr. Bydded geiriau fy ngenau'n dderbyniol gennyt, a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti, O ARGLWYDD, fy nghraig a'm prynwr.
Darllen Y Salmau 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 19:7-14
10 Days
Wrestling with faith and doubt can be profoundly lonely and isolating. Some suffer in silence while others abandon belief altogether, assuming doubt is incompatible with faith. Dominic Done believes this is both tragic and deeply mistaken. He uses Scripture and literature to argue that not only is questioning normal but it is often a path toward a rich and vibrant faith. Explore faith and doubt in this 10-day plan.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos