Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder. Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd; fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer. Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion. Pan oedd clymau angau'n tynhau amdanaf a llifeiriant distryw yn fy nal, pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu a maglau angau o'm blaen, gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo; clywodd fy llef o'i deml, a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.
Darllen Y Salmau 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 18:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos