Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb, ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith. Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD, a'th saint yn dy fendithio. Dywedant am ogoniant dy deyrnas, a sôn am dy nerth, er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nerthol ac ysblander gogoneddus dy deyrnas. Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas, a saif dy lywodraeth byth bythoedd. Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau, ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd. Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio, a chodi pawb sydd wedi eu darostwng. Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti, ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd; y mae dy law yn agored, ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn ôl d'ewyllys. Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno, at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd. Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni; gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy. Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu, ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus.
Darllen Y Salmau 145
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 145:9-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos