Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin, a bendithiaf dy enw byth bythoedd. Bob dydd bendithiaf di, a moliannu dy enw byth bythoedd. Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl, ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy. Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall, a mynegi dy weithredoedd nerthol. Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant, a myfyrio ar dy ryfeddodau. Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy, ac adrodd am dy fawredd. Dygant i gof dy ddaioni helaeth, a chanu am dy gyfiawnder.
Darllen Y Salmau 145
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 145:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos