ARGLWYDD, yr wyt wedi fy chwilio a'm hadnabod.
Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi;
yr wyt wedi deall fy meddwl o bell;
yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys,
ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.
Oherwydd nid oes air ar fy nhafod
heb i ti, ARGLWYDD, ei wybod i gyd.
Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen,
ac wedi gosod dy law drosof.
Y mae'r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi;
y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd.
I ble yr af oddi wrth dy ysbryd?
I ble y ffoaf o'th bresenoldeb?
Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno;
os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.
Os cymeraf adenydd y wawr
a thrigo ym mhellafoedd y môr,
yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain,
a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.
Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio,
a'r nos yn cau amdanaf”,
eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti;
y mae'r nos yn goleuo fel dydd,
a'r un yw tywyllwch a goleuni.
Ti a greodd fy ymysgaroedd,
a'm llunio yng nghroth fy mam.
Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,
ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.
Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt
pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,
ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;
y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;
cafodd fy nyddiau eu ffurfio
pan nad oedd yr un ohonynt.
Mor ddwfn i mi yw dy feddyliau, O Dduw,
ac mor lluosog eu nifer!
Os cyfrifaf hwy, y maent yn amlach na'r tywod,
a phe gorffennwn hynny, byddit ti'n parhau gyda mi.
Fy Nuw, O na fyddit ti'n lladd y drygionus,
fel y byddai rhai gwaedlyd yn troi oddi wrthyf—
y rhai sy'n dy herio di yn ddichellgar,
ac yn gwrthryfela'n ofer yn dy erbyn.
Onid wyf yn casáu, O ARGLWYDD, y rhai sy'n dy gasáu di,
ac yn ffieiddio'r rhai sy'n codi yn dy erbyn?
Yr wyf yn eu casáu â chas perffaith,
ac y maent fel gelynion i mi.
Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon;
profa fi, iti ddeall fy meddyliau.
Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn loes i mi,
ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol.