Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 136:1-9

Y Salmau 136:1-9 BCND

Diolchwch i'r ARGLWYDD am mai da yw, oherwydd mae ei gariad hyd byth. Diolchwch i Dduw y duwiau, oherwydd mae ei gariad hyd byth. Diolchwch i Arglwydd yr arglwyddi, oherwydd mae ei gariad hyd byth. Y mae'n gwneud rhyfeddodau mawrion ei hunan, oherwydd mae ei gariad hyd byth; gwnaeth y nefoedd mewn doethineb, oherwydd mae ei gariad hyd byth; taenodd y ddaear dros y dyfroedd, oherwydd mae ei gariad hyd byth; gwnaeth oleuadau mawrion, oherwydd mae ei gariad hyd byth; yr haul i reoli'r dydd, oherwydd mae ei gariad hyd byth, y lleuad a'r sêr i reoli'r nos, oherwydd mae ei gariad hyd byth.