Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol, wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll. Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw, oherwydd gweision i ti yw'r cyfan. Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi, byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd; nid anghofiaf dy ofynion hyd byth, oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:89-93
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos