Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth, ac yn gobeithio yn dy air; y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid; dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?” Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg, eto nid anghofiaf dy ddeddfau. Am ba hyd y disgwyl dy was cyn iti roi barn ar fy erlidwyr? Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith, wedi cloddio pwll ar fy nghyfer. Y mae dy holl orchmynion yn sicr; pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi. Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear, ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion. Yn ôl dy gariad adfywia fi, ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau. Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol, wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll. Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw, oherwydd gweision i ti yw'r cyfan. Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi, byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd; nid anghofiaf dy ofynion hyd byth, oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi. Eiddot ti ydwyf; gwareda fi, oherwydd ceisiais dy ofynion. Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio, ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau. Gwelaf fod popeth yn dod i ben, ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:81-96
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos