Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 119:57-80

Y Salmau 119:57-80 BCND

Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD; addewais gadw dy air. Yr wyf yn erfyn arnat â'm holl galon, bydd drugarog wrthyf yn ôl dy addewid. Pan feddyliaf am fy ffyrdd, trof fy nghamre'n ôl at dy farnedigaethau; brysiaf, heb oedi, i gadw dy orchmynion. Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf, eto nid anghofiais dy gyfraith. Codaf ganol nos i'th foliannu di am dy farnau cyfiawn. Yr wyf yn gymar i bawb sy'n dy ofni, i'r rhai sy'n ufuddhau i'th ofynion. Y mae'r ddaear, O ARGLWYDD, yn llawn o'th ffyddlondeb; dysg i mi dy ddeddfau. Gwnaethost ddaioni i'th was, yn unol â'th air, O ARGLWYDD. Dysg imi ddirnadaeth a gwybodaeth, oherwydd yr wyf yn ymddiried yn dy orchmynion. Cyn imi gael fy ngheryddu euthum ar gyfeiliorn, ond yn awr yr wyf yn cadw dy air. Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni; dysg i mi dy ddeddfau. Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd, ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon; y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster, ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith. Mor dda yw imi gael fy ngheryddu, er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau! Y mae cyfraith dy enau yn well i mi na miloedd o aur ac arian. Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd; rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion. Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychant am fy mod yn gobeithio yn dy air. Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn, ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu. Bydded dy gariad yn gysur i mi, yn unol â'th addewid i'th was. Pâr i'th drugaredd ddod ataf, fel y byddaf fyw, oherwydd y mae dy gyfraith yn hyfrydwch i mi. Cywilyddier y trahaus oherwydd i'w celwydd fy niweidio, ond byddaf fi'n myfyrio ar dy ofynion. Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi, iddynt gael gwybod dy farnedigaethau. Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau, rhag imi gael fy nghywilyddio.