Pâr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD, a'th iachawdwriaeth yn ôl dy addewid; yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar, oherwydd ymddiriedais yn dy air. Paid â chymryd gair y gwirionedd o'm genau, oherwydd fe obeithiais yn dy farnau. Cadwaf dy gyfraith bob amser, hyd byth bythoedd. Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd, oherwydd ceisiais dy ofynion. Siaradaf am dy farnedigaethau gerbron brenhinoedd, ac ni fydd arnaf gywilydd; ymhyfrydaf yn dy orchmynion am fy mod yn eu caru. Parchaf dy orchmynion am fy mod yn eu caru, a myfyriaf ar dy ddeddfau.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:41-48
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos