Doed fy llef atat, O ARGLWYDD; rho imi ddeall yn ôl dy air. Doed fy neisyfiad atat; gwared fi yn ôl dy addewid. Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliant am iti ddysgu i mi dy ddeddfau. Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid, oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn. Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo, oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion. Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith. Gad imi fyw i'th foliannu di, a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo. Euthum ar gyfeiliorn fel dafad ar goll; chwilia am dy was, oherwydd nid anghofiais dy orchmynion.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:169-176
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos