Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos, i fyfyrio ar dy addewid. Gwrando fy llef yn ôl dy gariad; O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi. Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu, ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith. Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD, ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd. Gwn erioed am dy farnedigaethau, i ti eu sefydlu am byth. Edrych ar fy adfyd a gwared fi, oherwydd nid anghofiais dy gyfraith. Amddiffyn fy achos ac achub fi; adfywia fi yn ôl dy addewid.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:148-154
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos