Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD, a chywir yw dy farnau. Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawn ac yn gwbl ffyddlon. Y mae fy nghynddaredd yn fy ysu am fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau. Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr, ac y mae dy was yn ei charu. Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod, nid wyf yn anghofio dy ofynion. Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol, ac y mae dy gyfraith yn wirionedd. Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf, ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion. Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth; rho imi ddeall, fel y byddaf fyw.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:137-144
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos