Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau, ac yn ei geisio ef â'u holl galon, y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg, ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef. Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfau i'w cadw'n ddyfal. O na allwn gerdded yn unionsyth a chadw dy ddeddfau! Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaid ar dy holl orchmynion. Fe'th glodforaf di â chalon gywir wrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn. Fe gadwaf dy ddeddfau; paid â'm gadael yn llwyr. Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân? Trwy gadw dy air di. Fe'th geisiais di â'm holl galon; paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion. Trysorais dy eiriau yn fy nghalon rhag imi bechu yn dy erbyn. Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD; dysg i mi dy ddeddfau. Bûm yn ailadrodd â'm gwefusau holl farnau dy enau. Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenydd sydd uwchlaw pob cyfoeth. Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di, ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid. Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau, ac nid anghofiaf dy air. Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw, ac fe gadwaf dy air. Agor fy llygaid imi weld rhyfeddodau dy gyfraith. Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear; paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf. Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraeth am dy farnau di bob amser. Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedig sy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion. Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad, oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau. Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn, bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau; y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi, a hefyd yn gynghorwyr imi. Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch; adfywia fi yn ôl dy air. Adroddais am fy hynt ac atebaist fi; dysg i mi dy ddeddfau. Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion, ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid, cryfha fi yn ôl dy air. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf, a rho imi ras dy gyfraith. Dewisais ffordd ffyddlondeb, a gosod dy farnau o'm blaen. Glynais wrth dy farnedigaethau. O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio. Dilynaf ffordd dy orchmynion, oherwydd ehangaist fy neall.
Darllen Y Salmau 119
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 119:1-32
7 Days
You can have a great marriage. The choices you make today will determine the marriage you will have tomorrow. Pastor and New York Times bestselling author Craig Groeschel and his wife, Amy, show you how five commitments can help you fail-proof your marriage: Seek God, fight fair, have fun, stay pure, and never give up. Get the marriage you always wanted, starting right now — from this day forward.
2 Weeks
Jesus Himself said anyone who loves Him will obey His teaching. No matter what it costs us personally, our obedience matters to God. The "Obedience" reading plan walks through what the Scriptures say about obedience: How to maintain a mindset of integrity, the role of mercy, how obeying frees us and blesses our lives, and more.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos