Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrando ar lef fy ngweddi, am iddo droi ei glust ataf y dydd y gwaeddais arno. Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf, a gefynnau Sheol wedi fy nal, a minnau'n dioddef adfyd ac ing. Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD: “Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi.” Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn, ac y mae ein Duw ni'n tosturio. Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml; pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd. Gorffwysa unwaith eto, fy enaid, oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt; oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau, fy llygaid rhag dagrau, fy nhraed rhag baglu. Rhodiaf gerbron yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw. Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi fy narostwng; cefais fy nghystuddio'n drwm; yn fy nghyni dywedais, “Y mae pawb yn dwyllodrus.” Sut y gallaf dalu i'r ARGLWYDD am ei holl haelioni tuag ataf? Dyrchafaf gwpan iachawdwriaeth, a galw ar enw'r ARGLWYDD. Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD ym mhresenoldeb ei holl bobl. Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD yw marwolaeth ei ffyddloniaid. O ARGLWYDD, dy was yn wir wyf fi, gwas o hil gweision; yr wyt wedi datod fy rhwymau. Rhof i ti offrwm diolch, a galw ar enw'r ARGLWYDD. Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD ym mhresenoldeb ei holl bobl, yng nghynteddau tŷ'r ARGLWYDD yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.
Darllen Y Salmau 116
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 116:1-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos