Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 110

110
I Ddafydd. Salm.
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd:
“Eistedd ar fy neheulaw,
nes imi wneud dy elynion yn droedfainc i ti.”
2Y mae'r ARGLWYDD yn estyn i ti o Seion deyrnwialen awdurdod;
llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion.
3Y mae dy bobl yn deyrngar iti ar ddydd dy eni
mewn gogoniant sanctaidd o groth y wawr;
fel gwlith y'th genhedlais di.
4Tyngodd yr ARGLWYDD, ac ni newidia,
“Yr wyt yn offeiriad am byth
yn ôl urdd Melchisedec.”
5Y mae'r Arglwydd ar dy ddeheulaw
yn dinistrio brenhinoedd yn nydd ei ddicter.
6Fe weinydda farn ymysg y cenhedloedd,
a'u llenwi â chelanedd;
dinistria benaethiaid
dros ddaear lydan.
7Fe yf o'r nant ar y ffordd,
ac am hynny y cwyd ei ben.

Dewis Presennol:

Y Salmau 110: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd