Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 109

109
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.
1O Dduw fy moliant, paid â thewi.
2Oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn,
a llefaru wrthyf â thafod celwyddog,
3a'm hamgylchu â geiriau casineb,
ac ymosod arnaf heb achos.
4Am fy ngharedigrwydd y'm cyhuddant,
a minnau'n gweddïo drostynt.
5Talasant imi ddrwg am dda,
a chasineb am gariad.
6Apwyntier un drwg yn ei erbyn,
a chyhuddwr i sefyll ar ei dde.
7Pan fernir ef, caffer ef yn euog,
ac ystyrier ei weddi'n bechod.
8Bydded ei ddyddiau'n ychydig,
a chymered arall ei swydd;
9bydded ei blant yn amddifad
a'i wraig yn weddw.
10Crwydred ei blant i gardota—
wedi eu troi allan#109:10 Felly Groeg. Hebraeg, a cheisiant. o'u hadfeilion.
11Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo,
a dyged estroniaid ei enillion.
12Na fydded i neb drugarhau wrtho,
na gwneud ffafr â'i blant amddifad.
13Torrer ymaith ei linach,
a'i henw wedi ei ddileu o fewn cenhedlaeth.
14Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid gerbron yr ARGLWYDD,
ac na ddileer pechodau ei fam.
15Bydded hyn mewn cof gan yr ARGLWYDD yn wastad,
a bydded iddo dorri ymaith eu coffa o'r tir.
16Oherwydd ni chofiodd hwn fod yn ffyddlon,
ond erlidiodd y gorthrymedig a'r tlawd,
a'r drylliedig o galon hyd angau.
17Carodd felltithio: doed melltith arno yntau.
Ni hoffai fendithio; pell y bo bendith oddi wrtho yntau.
18Gwisgodd felltith amdano fel dilledyn;
suddodd i'w gnawd fel dŵr,
ac fel olew i'w esgyrn.
19Bydded fel y dillad a wisga,
ac fel y gwregys sydd amdano bob amser.
20Hyn fyddo tâl yr ARGLWYDD i'm cyhuddwyr,
sy'n llefaru drygioni yn fy erbyn.
21Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw,
gweithreda drosof er mwyn dy enw;
oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi.
22Yr wyf yn druan a thlawd,
a'm calon mewn gwewyr ynof.
23Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd;
fe'm gyrrir ymaith fel locust.
24Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd,
a'm corff yn denau o ddiffyg braster.
25Deuthum yn gyff gwawd iddynt;
pan welant fi, ysgydwant eu pennau.
26Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy Nuw,
achub fi yn ôl dy drugaredd,
27a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw,
mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth.
28Pan fônt hwy'n melltithio, bendithia di;
cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen.
29Gwisger fy nghyhuddwyr â gwarth;
bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt.
30Clodforaf fi yr ARGLWYDD â'm genau,
a moliannaf ef yng ngŵydd cynulleidfa.
31Oherwydd saif ef ar ddeheulaw'r tlawd,
i'w achub rhag ei gyhuddwyr.

Dewis Presennol:

Y Salmau 109: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd