Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd: “Eistedd ar fy neheulaw, nes imi wneud dy elynion yn droedfainc i ti.” Y mae'r ARGLWYDD yn estyn i ti o Seion deyrnwialen awdurdod; llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion. Y mae dy bobl yn deyrngar iti ar ddydd dy eni mewn gogoniant sanctaidd o groth y wawr; fel gwlith y'th genhedlais di. Tyngodd yr ARGLWYDD, ac ni newidia, “Yr wyt yn offeiriad am byth yn ôl urdd Melchisedec.” Y mae'r Arglwydd ar dy ddeheulaw yn dinistrio brenhinoedd yn nydd ei ddicter.
Darllen Y Salmau 110
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 110:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos